Amdanom ni

Mae Fforwm Gofal Cymru’n sefydliad di-elw gyda mwy na 400 aelod ar draws Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 1993 fel llais dros ddarparwyr gofal iechyd a chymdeithasol yn y drafodaeth am sut i gynnig y deilliannau gorau i’r rheiny sydd angen gofal cymdeithasol.

  • Gweithiwn yn agos gyda Llywodraeth Cymru, comisiynwyr, a rheolwyr i ffurfio polisïau sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn cael eu gofalu i’r safon uchaf.
  • Gweithiwn hefyd i hyrwyddo proffil y gweithlu gofal cymdeithasol. Bob blwyddyn, trefnwn ddathliad o’r gwaith caled a dibynadwyedd a’u gwelir yn y gweithlu gofal cymdeithasol, trwy gynnal y Gwobrau Gofal Cymru.
  • Hefyd, trefnwn hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio i sicrhau ymarfer gorau yn ogystal â rhannu gwybodaeth gyda’n haelodau.
  • Caiff ein haelodau’r budd o gyngor proffesiynol, taflenni newyddion, a gwirio cofnodion troseddu am bris isaf. Cânt hefyd eu cofrestru ar ein gwasanaeth cymharu gofalwyr, ar wefan Fforwm Gofal Cymru.

Dolenni defnyddiol:

Ymunwch

Cysylltwch

Yn gweithio i godi safonau

Mae Fforwm Gofal Cymru’n falch i fod yn llofnodydd i’r Memorandwm Dealltwriaeth, Sicrhau Partneriaethau Cryf yng Ngofalaeth –– sef cytundeb wedi’i arwyddo hefyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, National Care Association (NCA, a Homecare Association.

Ers blynyddoedd ymgyrchwn o blaid fframwaith cenedlaethol sy’n torri trwy fiwrocratiaeth, ychwanegu at atebolrwydd, a chynnwys byrddau iechyd lleol.

Ar ôl 20 mlynedd parhawn i ymdrechu o blaid gwelliannau i drefn gofal cymdeithasol a sut y’i cynhelir yng Nghymru. Mae’n daith hir erbyn hyn, ond mae cryn dipyn mwy o heriau o’n blaen.

  • Os hoffwch wybod mwy am Fforwm Gofal Cymru, cysylltwch â ni trwy ebost: enquiries@careforumwales.co.uk
  • Os hoffwch ymuno â Fforwm Gofal Cymru, gellwch gofrestru ar-lein.