Pam ymuno?

Ymunwch â Fforwm Gofal Cymru er mwyn inni wella gofal cymdeithasol yng Nghymru

Yr ydym yn gweithio i wella gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn amgylchedd ariannol heriol ac yn ystod adeg sy’n gweld newidiadau demograffig enfawr. Yr ydym eisiau canfod fyrdd newydd a chynaliadwy o gomisiynu a darparu gofal o’r safon gorau i bawb.

Trwy ymuno â Fforwm Gofal Cymru byddwch yn rhan o fudiad mawr; cewch eich cynorthwyo pryd bynnag bo eisiau; a gellwch ddylanwadu’r drafodaeth am ddyfodol gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ein gwaith ni:

  • Dylanwadu polisïau – Gweithiwn gyda llywodraeth leol a chenedlaethol, rheolyddion ac asiantaethau gofal iechyd a chymdeithasol i ffurfio modelau cynaliadwy o ofalu.
  • Darparu cynrychiolaeth i’n haelodau – Ein nod yw sicrhau canlyniadau sy’n deg a realistig.
  • Hyrwyddo safonau uwch mewn gofal – Cynigiwn hyfforddiant i’ch helpu i hyrwyddo urddas mewn gofal, yn ogystal â dewis, parch, a chynhwysiad cymdeithasol i’r rheiny sydd eisiau eich gwasanaeth.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth – Gweithiwn i hyrwyddo’r proffil o ofal cymdeithasol yng Nghymru ymhlith y cyhoedd a’r rheiny sy’n comisiynu gofal. Mae seremoni Gwobrau Gofal Cymru’n elfen allweddol i hyn.

Gofynnwch ein cynghorwyr polisi

Mae gennym ddau gynghorwr polisi llawn-amser sy’n cadw llygad ar bopeth sy’n digwydd mewn polisi gofal cymdeithasol. Gallant eich cynghori ar bynciau, a’ch cadw yn gyfamserol gyda deddfwriaeth, ac adnoddau i’w rhannu gyda’ch staff. Hefyd, bydd y cynghorwyr yn cadw cysylltiad gyda nifer o arbenigwyr. Gallant eich helpu i drefnu fforymau darparwr er mwyn ichi siarad gyda llais cyfunol wrth weithio gyda chomisiynwyr gofal.

Fforwm Gofal Cymru – buddion i aelodau

Buddion sy’n cynnwys hyfforddiant, taflenni newyddion, ac adnoddau sy’n cael eu huwchlwytho er mwyn i aelodau’n arbennig.